Rhif y ddeiseb: P-05-1017

Teitl y ddeiseb: Caniatáu i ddisgyblion wisgo mygydau ym mhob rhan o safle’r ysgol

Geiriad y ddeiseb: Rwy’n dechrau’r ddeiseb hon i alw ar y Senedd i wneud i ysgolion adael i ddisgyblion wisgo mygydau wyneb ar bob adeg (hyd yn oed yn yr ystafell ddosbarth). Gall mygydau/gorchuddion wyneb leihau’n sylweddol y gyfradd trosglwyddiadau fel y dangoswyd mewn gwledydd eraill ledled y byd. Os yw gwisgo mwgwd wyneb yn orfodol ar drafnidiaeth gyhoeddus yn Lloegr, pam na ddylai disgyblion wisgo mygydau mewn amgylchedd caeedig fel ystafell ddosbarth lle y mae mwy o bobl sy’n treulio amser hir yno??

Gwybodaeth ychwanegol: Mae Ysgol Friars wedi gwahardd defnyddio mygydau a gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth.

 

 

 

 

 

 

 


1.     Crynodeb

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei safbwynt ynglŷn â gorchuddion wyneb mewn ysgolion ar 26 Awst 2020, a gorchuddion wyneb yn y gymdeithas yn fwy cyffredinol ar 11 Medi 2020.

Mae canllawiau Llywodraeth Cymru yn cael eu diweddaru'n rheolaidd a chynghorir Aelodau'r Pwyllgor i gyfeirio at y fersiynau diweddaraf sydd ar gael.

2.     Gorchuddion wyneb mewn ysgolion

Gwnaeth Llywodraeth Cymru ddiweddaru ei pholisi ynghylch gorchuddion wyneb mewn ysgolion ar 26 Awst 2020.

Dywedodd Llywodraeth Cymru er bod cyngor gwyddonol yn nodi nad yw gorchuddion wyneb yn debygol o wneud fawr o wahaniaeth mewn plant o dan 11 oed, fe'u hargymhellir ar gyfer holl aelodau’r cyhoedd dros 11 oed mewn lleoliadau dan do lle na ellir cadw pellter cymdeithasol, gan gynnwys ysgolion uwchradd.

Felly, argymhellir y dylid defnyddio gorchuddion wyneb mewn ardaloedd cymunedol (coridorau ac ati ond nid o reidrwydd ystafelloedd dosbarth) mewn ysgolion uwchradd ond nid mewn ysgolion cynradd.

Mae canllawiau gweithredol Llywodraeth Cymru i ysgolion (a ddiweddarwyd ar 2 Medi) yn nodi:

Mae’r Prif Swyddog Meddygol yn argymell, ond nid yw’n mandadu, y dylid defnyddio gorchuddion wyneb yn unol ag asesiadau risg mewn ysgolion uwchradd yn ardaloedd cymunedol yr ysgol, fel coridorau lle mae cynllun yr adeilad yn golygu na all grwpiau cyswllt aros ar wahân i'r un graddau a lle mae’n anodd cadw at fesurau rheoli eraill. Bydd hwn yn benderfyniad lleol i'r ysgol neu'r lleoliad gan ddibynnu ar eu hasesiad o'r risg ac yng nghyd-destun yr amgylchiadau lleol.

Os bydd disgybl yn dymuno gwisgo gorchudd wyneb er nad yw'n ofynnol nac yn cael ei argymell, mae llythyr y Gweinidog Addysg ynghylch deiseb P-05-1017 yn nodi nad yw Llywodraeth Cymru yn gwahardd yn benodol defnyddio gorchuddion wyneb mewn ystafelloedd dosbarth. Dywed y Gweinidog y dylai'r disgybl neu ei rieni drafod y mater gyda'r ysgol – byddai Llywodraeth Cymru am i’r ysgol ddefnyddio 'dull pragmatig a chynhwysol' yn yr achos hwn.

Gofynnwyd i’r Gweinidog am orchuddion wyneb mewn ysgolion yn y Cyfarfod Llawn ar 15 Medi a dywedodd:

O ran mygydau, mae'r canllawiau ar fygydau yn gwbl glir. Ein disgwyliadau ni o ran ysgolion, a'n canllawiau gweithredu ni yw, y byddan nhw'n cymryd camau i gyfyngu ar gyswllt rhwng grwpiau o ddisgyblion. Ac mae ysgolion yn gwneud hyn mewn ffyrdd amrywiol: er enghraifft, parthau; systemau un ffordd; dechrau'r diwrnod fesul cam; amseroedd egwyl fesul cam, amseroedd cinio a threfniadau ar ddiwedd diwrnod ysgol. Pan fydd yr holl bethau hyn wedi eu gwneud—oherwydd mae'n rhaid gwneud y pethau hynny'n gyntaf—pan fydd yr holl bethau hynny wedi eu gwneud a'i bod hi'n amhosibl wedyn gadw swigod o ddisgyblion ar wahân mewn mannau cymunedol, dyna pryd y dylid gwisgo mygydau. Ac mae'n well gwneud hynny ar sail asesu risg unigol mewn ysgol unigol, oherwydd mae ein hysgolion ni'n amrywio'n fawr o ran maint a chynllun. Mae yna ysgolion uwchradd yn fy etholaeth i a fyddai'n edrych fel ysgolion cynradd bach yng nghyd-destun Caerdydd. Mae rhai o'n hysgolion mewn adeiladau ysgol gwych yr unfed ganrif ar hugain, ac yna mae rhai o'n hysgolion yn dal i fod, pe byddwn i'n onest, mewn adeiladau o oes Fictoria, ac felly fe fydd eich gallu chi i gyflawni'r pethau hyn yn eich ysgol chi'n amrywio o ysgol i ysgol. Os na allwch gadw grwpiau o ddisgyblion 2m oddi wrth ei gilydd mewn mannau cymunedol, yna fe ddylen nhw wisgo mygydau, ac rwy'n siŵr fod trefnu hynny o fewn gallu'r penaethiaid sy'n rhedeg ein hysgolion ni. Maent yn ymdrin yn feunyddiol â phroblemau sy'n llawer mwy cymhleth na gweithio allan sut i gadw plant 2m ar wahân mewn coridor. [ychwanegwyd y print trwm gan Wasanaeth Ymchwil y Senedd i roi pwyslais]

3.     Gorchuddion wyneb yn y gymdeithas yn fwy cyffredinol

Cyhoeddodd Llywodraeth Cymru ar 11 Medi y byddai’n rhaid gwisgo gorchuddion wyneb ym mhob man cyhoeddus dan do o 14 Medi ymlaen, fel siopau a chanolfannau siopa, siopau trin gwallt a champfeydd. Yr eithriad i'r gofyniad hwn yw pan fydd person y tu mewn i le bwyta neu yfed (er enghraifft, caffis, bwytai a thafarndai).  

Nid yw'n ofynnol i blant o dan 11 oed wisgo gorchuddion wyneb. Y rheswm am hyn yw bod y cyngor gwyddonol yn nodi nad yw gorchuddion wyneb yn debygol o wneud fawr o wahaniaeth mewn plant o dan 11 oed.

Gwneir pob ymdrech i sicrhau bod y wybodaeth yn y papur briffio hwn yn gywir adeg ei gyhoeddi. Dylai darllenwyr fod yn ymwybodol nad yw'r papurau briffio hyn yn cael eu diweddaru o reidrwydd na'u diwygio fel arall i adlewyrchu newidiadau dilynol.